Mae’r Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru (PDB Cymru) wedi’i sefydlu i sicrhau bod CIMSPA yn diwallu anghenion y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ac yn rhoi pobl wrth galon y darlun.
Mae’r bwrdd yn cynnwys amrywiaeth eang o aelodau o swyddi arweinyddiaeth uwch ar draws y sector, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, cyflogwyr, sefydliadau addysgol, darparwyr hyfforddiant, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, sefydliadau chwaraeon Cymreig, arbenigwyr mewn amrywiaeth ac arbenigwyr ym maes iechyd a pholisi Cymreig.
Y Weledigaeth ar gyfer y Gweithlu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghymru
Mae Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yn uchelgeisiol ac eisiau gweld cynllunio, datblygu a rheoli’r gweithlu wrth galon chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae’r Weledigaeth ar gyfer Gweithlu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymru wedi bod yn sail i waith y bwrdd.
Ein nod yw:
“Eirioli dros weithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol Cymru a’i gefnogi. Amlygu gwerth ac effaith ehangach ein sector yng Nghymru drwy gydnabod ein pobl, eu proffesiwn a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth greu Cymru iachach a hapusach, tra’n datblygu ac yn ysbrydoli’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol.”
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Sicrhau bod aelodau Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yn cynrychioli’r sector cyfan, gan ein galluogi i ystyried datblygiad gweithlu’r sector drwy sawl safbwynt ac i gysylltu â rhwydwaith eang
- Cydweithio â CIMSPA a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu gwasanaethau ac eirioli dros gefnogaeth sy’n cyflawni canlyniadau yn seiliedig ar anghenion sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol Cymru
- Amlygu pwysigrwydd gweithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n cael ei gydnabod yn broffesiynol er mwyn arddangos ein gwerth, newid agweddau a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n sector
- Defnyddio adnoddau data a mewnwelediad i lywio gwneud penderfyniadau, darparu dysgu a chefnogi cynllunio ar lefel leol a chenedlaethol
- Ymdrechu i wreiddio ansawdd yn system addysg Cymru sy’n effeithlon, amrywiol ac yn addas at ei diben drwy gydol gyrfa unigolyn, er mwyn sicrhau y gall ein sector ddatblygu’r gweithlu mewn ffordd ddeinamig a holistaidd
Aelodau’r Bwrdd
Chris Emsley (Cadeirydd)
Ffocws: Datblygu’r gweithlu a rhoi ffordd i’n pobl ni gysylltu â’i gilyddr.

Rob Baynham (Dirprwy gadeirydd)
Ffocws: Hyrwyddo dysgu parhaus drwy gydol eich gyrfa a sicrhau bod sefydliadau addysg bellach ledled Cymru yn rhan o’r ateb.

Catrin Davis
Ffocws: Sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith ac addysg ar gael yn rhwydd i’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Chloe Jordan
Ffocws: Eirioli dros fwy o lais y bobl ifanc mewn rolau gwneud penderfyniadau ym maes chwaraeon.

Clare Jeffries
Ffocws: Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ehangach i sicrhau rhaglenni datblygiad proffesiynol sy’n addas i’r diben, o ansawdd uchel ac sy’n ennyn diddordeb.

Felicitie Walls
Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
Ffocws: Eirioli dros y gweithlu gwirfoddol yng Nghymru a chynghori ar greu systemau cadarn i gefnogi gwirfoddolwyr ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.


Dr Gareth Downey
Ffocws: Cefnogi’r sector i gael mynediad at gymwysterau addas sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr yng Nghymru.

Lee Jones
Ffocws: Gweithredu fel llais dros gyflogwyr hamdden ar draws y sector i sicrhau y caiff pobl eu hysbrydoli i weithio ym maes hamdden, iechyd a lles.

Mark Jones
Ffocws: Sicrhau bod gan y sector awyr agored gynrychiolaeth a chydnabyddiaeth gyfartal â gweddill y sector chwaraeon.

Mike Parry
Ffocws: Esblygu datblygiad sgiliau ar lefel leol i ffrwyno potensial y sector.

Nic Beggs
Ffocws: Gweithredu fel llais i gyflogwyr hamdden ar draws y sector i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau gyrfaoedd gydol oes, gyda digon o gyfleoedd cynnydd, a sut mae rhanddeiliaid yn chwarae rhan yn hyn.

Dr Rachael Newport
Ffocws: Sicrhau cynrychiolaeth i anabledd a bod y sector yn hygyrch.

Rhian Pearce
Ffocws: Asesu sgiliau a gweithlu’r sector a hefyd tynnu sylw at yr effaith ar y sector iechyd.

Robyn Lock
Ffocws: I gydnabod y gweithlu’n broffesiynol a’u helpu i sylweddoli eu heffaith ar boblogaeth Cymru.

Sian Rees
Ffocws: Cefnogi CIMSPA i sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn addas at ei ddiben ar gyfer sefydliadau chwaraeon perfformiad a’r gweithlu perfformiad uchel yng Nghymru.

Steph Makuvise
Ffocws: Sicrhau bod y sector yn gynrychioliadol o’r amrywiaeth ethnig sy’n bodoli yng Nghymru.

Steve Osborne FCIMSPA (Chartered)
Cardiff Metropolitan University
Ffocws:Galluogi gwneud penderfyniadau ar sail data ar draws y sector.

Steve Woodfine
Ffocws: Cefnogi CIMSPA i gyd-fynd â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac i ddehongli polisïau a chylchlythyrau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n benodol i Gymru.

Tom Sharp
Ffocws: Rhoi llais i aelodau’r WSA o ran datblygu’r gweithlu a hefyd datblygu gwytnwch ar draws y sector.

Victoria Waters
Ffocws: Amlygu sut y gall CIMSPA gefnogi’r weledigaeth strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu dwr yng Nghymru.
