Mae Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru (y Sector Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol) wedi’i sefydlu i sicrhau bod CIMSPA yn diwallu anghenion y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, ac i sicrhau bod ei bobl yn rhan ganolog o’r sgwrs.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Datblygu Proffesiynol y DU, gan sicrhau bod strategaeth y DU yn cael ei rhoi mewn lle yn briodol yng Nghymru. Mae’r bwrdd yn cynnwys ystod amrywiol o aelodau o uwch swyddi arwain ar draws y sector, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, cyflogwyr, sefydliadau addysgol, darparwyr hyfforddiant, cyrff llywodraethu cenedlaethol, sefydliadau chwaraeon Cymru, arbenigwyr mewn amrywiaeth, ac arbenigwyr mewn iechyd a pholisi Cymreig.
Rôl y bwrdd
Rôl Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yw:
- sicrhau bod ei nodau a’i uchelgeisiau yn cyd-fynd â’r ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon’ drwy weithio i arallgyfeirio a chefnogi gweithlu mwy cynhwysol
- amlygu pwysigrwydd y sector chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar iechyd a lles Cymru a’r bobl y tu ôl i’w effaith
- datblygu adnoddau cynhwysfawr o ddata a safbwyntiau i lywio penderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol
- gwreiddio llwybrau clir o ansawdd mewn system addysg sy’n addas i’r diben drwy gydol gyrfa unigolyn
- newid y ffordd y mae aelodau o weithlu’r sector yng Nghymru yn gweld eu hunain a’u swyddi
- annog ecosystemau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol i gydweithio drwy fyrddau atebolrwydd sgiliau lleol.
Aelodau’r Bwrdd
Chris Emsley (Cadeirydd)
Ffocws: Datblygu’r gweithlu a rhoi ffordd i’n pobl ni gysylltu â’i gilyddr
Rob Baynham (Dirprwy gadeirydd)
Ffocws: Hyrwyddo dysgu parhaus drwy gydol eich gyrfa a sicrhau bod sefydliadau addysg bellach ledled Cymru yn rhan o’r ateb
Catrin Davis
Ffocws: Sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith ac addysg ar gael yn rhwydd i’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Chloe Jordan
Ffocws: Eirioli dros fwy o lais y bobl ifanc mewn rolau gwneud penderfyniadau ym maes chwaraeon
Clare Jeffries
Ffocws: Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ehangach i sicrhau rhaglenni datblygiad proffesiynol sy’n addas i’r diben, o ansawdd uchel ac sy’n ennyn diddordeb
Felicitie Walls
Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
Ffocws: Eirioli dros y gweithlu gwirfoddol yng Nghymru a chynghori ar greu systemau cadarn i gefnogi gwirfoddolwyr ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru
Eleanor Ower
Ffocws: Arallgyfeirio’r gweithlu yng Nghymru
Dr Gareth Downey
Ffocws: Cefnogi’r sector i gael mynediad at gymwysterau addas sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr yng Nghymru
Lee Jones
Ffocws: Gweithredu fel llais dros gyflogwyr hamdden ar draws y sector i sicrhau y caiff pobl eu hysbrydoli i weithio ym maes hamdden, iechyd a lles
Mark Jones
Ffocws: Sicrhau bod gan y sector awyr agored gynrychiolaeth a chydnabyddiaeth gyfartal â gweddill y sector chwaraeon
Mike Parry
Ffocws: Esblygu datblygiad sgiliau ar lefel leol i ffrwyno potensial y sector
Nic Beggs
Ffocws: Gweithredu fel llais i gyflogwyr hamdden ar draws y sector i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau gyrfaoedd gydol oes, gyda digon o gyfleoedd cynnydd, a sut mae rhanddeiliaid yn chwarae rhan yn hyn
Dr Rachael Newport
Ffocws: Sicrhau cynrychiolaeth i anabledd a bod y sector yn hygyrch
Rhian Pearce
Ffocws: Asesu sgiliau a gweithlu’r sector a hefyd tynnu sylw at yr effaith ar y sector iechyd
Robyn Lock
Ffocws: I gydnabod y gweithlu’n broffesiynol a’u helpu i sylweddoli eu heffaith ar boblogaeth Cymru
Sian Rees
Ffocws: Cefnogi CIMSPA i sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn addas at ei ddiben ar gyfer sefydliadau chwaraeon perfformiad a’r gweithlu perfformiad uchel yng Nghymru
Steph Makuvise
Ffocws: Sicrhau bod y sector yn gynrychioliadol o’r amrywiaeth ethnig sy’n bodoli yng Nghymru
Steve Osborne FCIMSPA (Chartered)
Cardiff Metropolitan University
Ffocws:Galluogi gwneud penderfyniadau ar sail data ar draws y sector
Steve Woodfine
Ffocws: Cefnogi CIMSPA i gyd-fynd â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac i ddehongli polisïau a chylchlythyrau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n benodol i Gymru
Tom Sharp
Ffocws: Rhoi llais i aelodau’r WSA o ran datblygu’r gweithlu a hefyd datblygu gwytnwch ar draws y sector
Victoria Waters
Ffocws: Amlygu sut y gall CIMSPA gefnogi’r weledigaeth strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu dwr yng Nghymru
Y Weledigaeth ar gyfer y Gweithlu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghymru
Mae Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yn uchelgeisiol ac eisiau gweld cynllunio, datblygu a rheoli’r gweithlu wrth galon chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae’r Weledigaeth ar gyfer Gweithlu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymru wedi bod yn sail i waith y bwrdd.