Nod
Ein nod yw:
“Eirioli dros weithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol Cymru a’i gefnogi. Amlygu gwerth ac effaith ehangach ein sector yng Nghymru drwy gydnabod ein pobl, eu proffesiwn a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth greu Cymru iachach a hapusach, tra’n datblygu ac yn ysbrydoli’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol.”
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Sicrhau bod aelodau Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru yn cynrychioli’r sector cyfan, gan ein galluogi i ystyried datblygiad gweithlu’r sector drwy sawl safbwynt ac i gysylltu â rhwydwaith eang.
- Cydweithio â CIMSPA a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu gwasanaethau ac eirioli dros gefnogaeth sy’n cyflawni canlyniadau yn seiliedig ar anghenion sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol Cymru.
- Amlygu pwysigrwydd gweithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n cael ei gydnabod yn broffesiynol er mwyn arddangos ein gwerth, newid agweddau a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n sector.
- Defnyddio adnoddau data a mewnwelediad i lywio gwneud penderfyniadau, darparu dysgu a chefnogi cynllunio ar lefel leol a chenedlaethol.
- Ymdrechu i wreiddio ansawdd yn system addysg Cymru sy’n effeithlon, amrywiol ac yn addas at ei diben drwy gydol gyrfa unigolyn, er mwyn sicrhau y gall ein sector ddatblygu’r gweithlu mewn ffordd ddeinamig a holistaidd.