Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru

Mae Bwrdd Datblygiad Proffesiynol Cymru (PDB Cymru) wedi cael ei sefydlu i sicrhau bod CIMSPA yn diwallu anghenion y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ac yn rhoi ei bobl yng nghanol y darlun. Mae’r bwrdd yn cynnwys ystod amrywiol o aelodau o uwch swyddi arwain ar draws y sector, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, cyflogwyr, sefydliadau addysgol, darparwyr hyfforddiant, Cyrff Rheoli Cenedlaethol, sefydliadau chwaraeon Cymru, arbenigwyr mewn amrywiaeth ac arbenigwyr ym maes iechyd a pholisi yng Nghymru.

Nod

Bwrdd Datblygu Proffesiynol Cymru

“Cynyddu atyniad gweithio yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol a sicrhau bod cwsmeriaid a defnyddwyr yng Nghymru yn cael profiad rhagorol.”

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Sicrhau bod aelodau Bwrdd Datblygiad Proffesiynol Cymru yn cynrychioli’r sector cyfan, gan ganiatáu i ni edrych ar ddatblygiad gweithlu’r sector drwy lensys niferus.
  • Cysoni ein nodau a’n huchelgeisiau gyda’r ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon’ drwy weithio i arallgyfeirio a chefnogi gweithlu mwy cynhwysol.
  • Gweithio gyda CIMSPA i ddatblygu gwasanaeth sy’n darparu canlyniadau sy’n seiliedig ar anghenion y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
  • Creu strategaeth Sgiliau Chwaraeon Cymru. Bydd y strategaeth hon yn cael ei chreu gan y sector gyda’n gweithlu ni’n chwarae rhan flaenllaw, gan hefyd ystyried a chysoni â deddfwriaeth bwysig arall yng Nghymru a’r DU.
  • Tynnu sylw at bwysigrwydd y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd a lles Cymru a’r bobl y tu ôl i’w effaith.
  • Datblygu adnoddau cynhwysfawr o ddata a gwybodaeth fel sail i benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
  • Ymdrechu i ymgorffori llwybrau clir o ansawdd mewn system addysg addas trwy gydol gyrfa unigolyn.
  • Creu sector sydd â chynhwysiant yn rhedeg drwy ei wythiennau i sicrhau bod y sector yn opsiwn gyrfa deniadol i bawb yng Nghymru.
  • Newid meddylfryd y ffordd y mae gweithlu Cymru yn gweld eu hunain a’u swyddi.


Blaenoriaethau

Mae gan Fwrdd Datblygiad Proffesiynol Cymru wyth blaenoriaeth a fydd yn cael eu hymgorffori yn strategaeth Sgiliau Chwaraeon Cymru:

  • Data a Gwybodaeth
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • System Addysg Gymraeg Effeithlon
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant
  • Hyrwyddo argaeledd a chyfleodd i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg
  • Iechyd a Lles
  • Codi Ymwybyddiaeth
  • Eiriolaeth a Lobïo
  • Cydnabyddiaeth a Phroffesiynoldeb

Aelodau

Catrin Davis (Cadeirydd)

Urdd Gobaith Cymru

Ffocws: Sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith ac addysg ar gael yn rhwydd i’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Chris Emsley (Is-Gadeirydd)

Prifysgol De Cymru

Ffocws: Datblygu’r gweithlu a rhoi ffordd i’n pobl ni gysylltu â'i gilydd.

Clare Jeffries

Portal Learning

Ffocws: Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ehangach i sicrhau rhaglenni datblygiad proffesiynol sy’n addas i’r diben, o ansawdd uchel ac sy’n ennyn diddordeb.

Eleanor Ower

Chwaraeon Cymru

Ffocws: Arallgyfeirio’r gweithlu yng Nghymru.

Gareth Downey

Cymwysterau Cymru

Ffocws: Cefnogi’r sector i gael mynediad at gymwysterau addas sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr yng Nghymru.

Lucy Scott

Jiwdo Cymru

Ffocws: Datblygu gwybodaeth am sector chwaraeon Cymru i alluogi sefydliadau i ddeall sut gall CIMSPA fod yn bartner gwerthfawr iddynt.

Mike Parry

Gogledd Cymru

Ffocws: Esblygu datblygiad sgiliau ar lefel leol i ffrwyno potensial y sector.

Nic Beggs

Legacy Leisure

Ffocws: Gweithredu fel llais i gyflogwyr hamdden ar draws y sector i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau gyrfaoedd gydol oes, gyda digon o gyfleoedd cynnydd, a sut mae rhanddeiliaid yn chwarae rhan yn hyn.

Rhian Pearce

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffocws: Asesu sgiliau a gweithlu’r sector a hefyd tynnu sylw at yr effaith ar y sector iechyd.

Rob Baynham

Colegau Cymru

Ffocws: Hyrwyddo dysgu parhaus drwy gydol eich gyrfa a sicrhau bod sefydliadau addysg bellach ledled Cymru yn rhan o’r ateb.

Robbie George

Beicio Cymru

Ffocws: Cysylltu’r sector yn well er mwyn creu effeithiau rhwydwaith pwerus.

Robyn Lock

CIMSPA

Ffocws: Newid y ffordd mae ein gweithlu ni’n siarad amdanynt eu hunain a’u helpu i sylweddoli eu heffaith ar boblogaeth Cymru.

Steph Makuvise

Cymdeithas Nofio Pobl Dduon

Ffocws: Sicrhau bod y sector yn gynrychioliadol o’r amrywiaeth ethnig sy’n bodoli yng Nghymru.

Tom Sharp

Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Ffocws: Rhoi llais i aelodau’r WSA o ran datblygu’r gweithlu a hefyd datblygu gwytnwch ar draws y sector.

Welsh Professional Development Board Terms of Reference

04/04/2024